Cychwyn eich cais DSA: Cymru Gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA): Cymru
Also available inEnglish
Yn darllen ynCymraeg
Mae sut ac ym mhle rydych yn gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn wahanol yn ddibynnol ar ble rydych yn byw yn y DU. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru sy’n gwneud cais am DSA trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Fel un o fyfyrwyr y Brifysgol Agored bydd angen ichi wneud cais am DSA bob blwyddyn.
Nid yw DSA ar gael i ddysgwyr prentisiaeth. Gallwch fod yn gymwys ar gyfer Mynediad i Waith y gallwch ei drafod gyda’ch cyflogwr prentisiaeth.
Cymhwysedd ar gyfer y DSA
I fod yn gymwys ar gyfer DSA, rhaid ichi gael o leiaf un o’r canlynol:
- cyflwr iechyd hirdymor megis canser, clefyd cronig y galon neu HIV.
- anhawster dysgu megis dyslecsia, ADHD, neu ddyspracsia
- anabledd corfforol megis bod â nam ar eich golwg, yn ddall, neu ddefnyddio baglau
- cyflwr iechyd meddwl megis iselder neu orbryder.
Byddwch hefyd angen:
- bod yn astudio lleiafswm o 30 credyd y flwyddyn
- bod yn astudio tuag at gymhwyster sy’n o leiaf 60 credyd ac sy'n cynnwys o leiaf un flwyddyn o astudiaeth
- cwrdd â’r meini prawf preswyliad fel yr amlinellir gan Cyllid Myfyrwyr Cymru
- darparu tystiolaeth o anabledd neu anhawster dysgu penodol.
Ble i wneud cais am DSA
Cyllid Myfyrwyr Cymru sy’n gyfrifol am y broses ceisiadau DSA. Am drosolwg o’r broses ewch i Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar wefan Cylid Myfyrwyr Cymru.
Byddwch yn barod i ddarparu tystiolaeth gyda’ch cais
Wrth ichi gwblhau eich ffurflen gais, bydd gofyn ichi roi tystiolaeth ar gyfer peth o’r wybodaeth rydych yn ei darparu. Mae'r nodiadau cais DSA a ddaw gyda’r ffurflen yn egluro pa dystiolaeth sydd ei hangen a p’un a oes angen iddi fod ar ffurf dogfen wreiddiol neu gopi.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi darparu Ffurflen Dystiolaeth Anabledd DSA y gallwch fynd â hi gyda chi at eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol i’w chwblhau fel rhan o’ch tystiolaeth feddygol.
Gallwch wneud cais i’n Cronfa Costau sy’n Gysylltiedig ag Astudio i dalu am gostau cael tystiolaeth feddygol hyd at £50. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid hwn i dalu am gost Asesiad Diagnostig.
Gallwch siarad â ni os oes angen unrhyw gymorth neu gyngor arnoch o ran cael y dystiolaeth yr ydych ei hangen. Cysylltwch â ni drwy wales-support@open.ac.uk neu rhowch alwad i ni ar +44 (0)29 2047 1170 (08:30-17:00 dydd Llun i ddydd Mercher).