Skip to content

Toggle service links

Camau nesaf ar ôl cwblhau’r cais DSA: Cymru Gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA): Cymru

Also available inEnglish

Yn darllen ynCymraeg

Ar ôl derbyn eich cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cysylltu â chi i gadarnhau p’un a ydych y gymwys. Os ydych yn gymwys, bydd gofyn ichi drefnu asesiad anghenion

Asesiad anghenion ar gyfer cais DSA 

Nid yw asesiad anghenion yn brawf neu’n asesiad o’ch anabledd. Mae’n gyfarfod ar y cyd rhyngoch chi â’ch aseswr anghenion astudio i drafod eich anghenion cymorth astudio penodol. 

Bydd gofyn ichi archebu eich asesiad anghenion mewn canolfan asesiad. Peidiwch ag archebu asesiad nes eich bod wedi cael cadarnhad gan Cyllid Myfyrwyr Cymru i barhau. Caiff cost yr asesiad ei thalu gan DSA, felly nid oes angen ichi ei thalu. 

Ar ôl ichi gael eich asesiad anghenion, byddwch yn derbyn adroddiad gyda’r argymhellion ar gyfer eich cymorth. Gofynnwch i’r aseswr faint y bydd yn ei gymryd i dderbyn yr adroddiad, fel eich bod yn gwybod pryd i’w ddisgwyl. 

Os ydych yn cytuno gyda’r argymhelliad, arwyddwch yr adroddiad a’i ddychwelyd at Cyllid Myfyrwyr Cymru. O fewn 14 diwrnod o anfon yr adroddiad wedi’i arwyddo byddwch yn derbyn llythyr hawl yn rhestru’r cymorth a'r offer sydd wedi’u cymeradwyo ar eich cyfer. 

Derbyn y cymorth DSA y cytunwyd arno 

Bydd eich llythyr hawl yn egluro sut bydd yr arian sydd wedi’i ddyrannu ichi yn cael ei dalu. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr i gysylltu â chyflenwyr i roi trefniadau ar gyfer y cymorth a’r offer ar waith. 

Os nad ydych yn gymwys neu eich bod wedi cyrraedd uchafswm eich DSA

Gallwch gysylltu â ni drwy wales-support@open.ac.uk neu ein galw ar +44 (0)29 2047 1170 (08:30-17:30 dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc) i drafod eich opsiynau ar gyfer ffynonellau arian a chymorth eraill. 

Ffynonellau cyllid eraill 

Gall bod cyllid ar wahân i gyllid gan y Brifysgol Agored neu DSA ar gael, er enghraifft: 

  • Access to work

    Os ydych yn astudio am brentisiaeth, siaradwch â’ch cyflogwr am Mynediad i Waith.

  • Ymddiriedolaeth Snowdon

    Yn cynorthwyo pobl gydag anableddau i gael mynediad at gyrsiau academaidd yn y DU drwy ddyfarnu grantiau ar gyfer offer ac anghenion astudio hanfodol. Gwneir dyfarniadau dim ond pan na ellir cwrdd â chyllid trwy ffynonellau eraill a disgwylir i fyfyrwyr fod wedi gwneud cais am DSA neu gael cadarnhad nad ydynt yn gymwys i dderbyn DSA.

  • Cymdeithas Iechyd Myfyrwyr - Cronfa Galluogi Myfyrwyr

    Yn cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau i gael mynediad at gyllid ar gyfer costau sy’n gysylltiedig ag astudiaeth. Disgwylir i fyfyrwyr wneud cais am DSA cyn gwneud cais i’r Gronfa Galluogi Myfyrwyr.

Last updated 5 diwrnod yn ôl