Skip to content

Toggle service links

Llenwi'r ffurflen gais DSA: Cymru Gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA): Cymru

Also available inEnglish

Yn darllen ynCymraeg

Dyma’r camau ar gyfer cwblhau’r ffurflen gais Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA). Caiff y broses ei disgrifio mewn mwy o fanylder yn dilyn y camau.

  1. Lawrlwythwch y ffurflen gais gywir, DSA1, o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd y byddwch yn astudio ynddi a darllenwch y nodiadau arweiniad a ddarperir.

  2. Llenwch yr adrannau perthnasol o’r ffurflen.

  3. Casglwch eich tystiolaeth i gyd-fynd â’r ffurflen.

  4. Anfonwch eich ffurflen gais DSA a’ch tystiolaeth i Cyllid Myfyrwyr Cymru, PO Box 211, Cyffordd Llandudno LL30 9FU.

Lawrlwytho’r ffurflen gywir 

Fel un o fyfyrwyr y Brifysgol Agored, bydd angen ichi wneud cais fel myfyriwr rhan-amser. Mae hyn oherwydd ystyrir astudio â’r Brifysgol Agored fel astudio rhan-amser, hyd yn oed os ydych yn astudio’n llawn-amser. Fel myfyriwr rhan-amser bydd angen ichi wneud cais am DSA bob blwyddyn academaidd. 

Bydd angen ichi wneud cais drwy’r post gan ddefnyddio’r ffurflen gais DSA1 ar gyfer y flwyddyn academaidd y byddwch yn dechrau’ch modiwl ynddi. Gallwch ddod o hyd i nodiadau arweiniad DSA gyda’r ffurflen gais i’ch helpu i’w gwblhau. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y nodiadau cais cyn llenwi'r ffurflen. 

Mae'r ffurflenni a'r nodiadau cais sydd eu hangen arnoch ar gael i’w lawrlwytho o dan Ffurflenni a nodiadau cais DSA

Darparu gwybodaeth am y Brifysgol Agored yn eich cais 

Gallwch adael Adran 5 - eich prifysgol neu’ch coleg yn wag. Am fod astudio â'r Brifysgol Agored yn cael ei ystyried yn ddysgu o bell, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn caniatáu i fyfyrwyr y Brifysgol Agored anfon eu ffurflen gais DSA gyda’r adran hon yn wag. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cysylltu â ni i gwblhau Adran 5 ar eich rhan, fodd bynnag bydd angen ichi gwblhau Adran 7 - eich caniatâd i roi caniatâd i Cyllid Myfyrwyr Cymru gysylltu â ni.

Anfon eich ffurflen i Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mae angen ichi anfon y ffurflen wedi’i chwblhau a’r dystiolaeth drwy’r post at Cyllid Myfyrwyr Cymru gyda'r cyfeiriad canlynol:

Cyllid Myfyrwyr Cymru
PO Box 211
Cyffordd Llandudno
LL30 9FU

Cymorth gyda’ch cais DSA 

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu nodiadau arweiniad manwl gyda’r ffurflen gais sy’n egluro’r broses. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, gallwch alw Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050. 

Gallwn eich helpu os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion yn ystod y broses gwneud cais. Cysylltwch â ni drwy wales-support@open.ac.uk neu rhowch alwad i ni ar +44 (0)29 2047 1170 (08:30-17:00 dydd Llun i ddydd Mercher, ac eithrio Gwyliau Banc).

Last updated 5 diwrnod yn ôl