Bu sawl newid sylweddol ers fersiwn flaenorol y ddogfen hon, sef:
a) Mae cyfeiriad at Gyswllt Cyflogi Llwybr Annibynnol wedi'i ychwanegu at gymal 1.2b.
b) Mae'r cymal 1.12 newydd yn nodi'r gofynion i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol i lofnodi Contract Anrhydeddus cyn cofrestru yn glir
c) Mae cymal 1.13 wedi cael ei ail-rifo. 1.12 oedd ei rif blaenorol.
d) Mae cyfeiriad at “Gyflogwr Llwybr Annibynnol” wedi'i ychwanegu at gymalau 2.1a, 2.1b a 2.3.
e) Mae cymal 2.1c a 2.4 wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn berthnasol i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
f) Mae cymal 2.1d yn nodi'r gofynion mewn perthynas â Chyfnodau Ymarfer Dysgu y mae'n rhaid i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol gytuno arnynt wrth gofrestru ar gyfer Cymhwyster Nyrsio.
g) Mae adran 2.6 wedi'i hychwanegu sy'n nodi'r hyn y bydd Y Brifysgol Agored yn ei wneud lle nad yw myfyriwr ar y Llwybr Annibynnol wedi cael digon o amser i gwblhau ei Gyfnodau Ymarfer Dysgu.
h) Mae adran 3.1 wedi'i nodi fel rhan nad yw'n berthnasol i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
i) Mae'r adran 3.3 newydd yn nodi'r amodau ynghylch terfynu Contract Anrhydeddus neu nawdd ariannol myfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
j) Mae cymal 4.1a ac adran 4.3 wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn berthnasol i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
k) Mae cyfeiriad at “Gyflogwr Llwybr Annibynnol (Llwybr Annibynnol)” yng nghymal 4.2.
l) Mae'r adran 4.4 newydd yn nodi'r amodau ynghylch terfynu cofrestriad ar y cymhwyster nyrsio ar gyfer myfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
m) Mae cymal 5.1c wedi'i ychwanegu sy'n nodi sut y gall myfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol gael estyniad i gwblhau'r cymhwyster Nyrsio.
n) Mae cymalau 7.1 a 7.2 wedi'u nodi fel rhai nad ydynt yn berthnasol i fyfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
o) Mae cymalau 7.3 a 7.4 sydd wedi'u hychwanegu yn nodi'r amodau ynghylch gohirio neu dynnu'n ôl o fodiwl ar gyfer myfyrwyr ar y Llwybr Annibynnol.
p) Mae'r term “Contract Anrhydeddus” wedi'i ychwanegu at y Rhestr Termau.
q) Mae'r term “Llwybr Annibynnol” wedi'i ychwanegu at y Rhestr Termau.
r) Mae'r term “Cyflogwr Llwybr Annibynnol” wedi'i ychwanegu at y Rhestr Termau.
s) Mae'r term “Cyswllt Cyflogwr Llwybr Annibynnol” wedi'i ychwanegu at y Rhestr Termau.
t) Mae “Cyswllt Llwybr Annibynnol” wedi cael ei ychwanegu at y diffiniad o Gyflogwr Llwybr Annibynnol.
a) Mae'r Cyflwyniad wedi'i ddiwygio i restru'r holl gymwysterau Nyrsio sydd ar gael o dan y Rhaglen Nyrsio.
b) Mae cyfeiriadau at yr “Awdurdod Rheoleiddio” wedi'u newid i gyfeiriadau at y “Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth” er mwyn sicrhau eglurder.
c) Mae “Tîm Cymorth ac Ymrestru ar Brentisiaeth” wedi'i newid i “Tîm Cymorth ac Ymrestru Prentisiaid” drwyddi draw.
d) Mae'r diffiniad o'r “Tîm Cymorth ac Ymrestru Prentisiaid” wedi'i ddiwygio yn y Rhestr Termau heb newid yr ystyr.
e) Mae'r term Prentis wedi'i ddefnyddio yn lle Dysgwr, lle y bo'n briodol, wrth gyfeirio at y rheini ar y rhaglen brentisiaeth.
f) Mae'r gofyniad i gwblhau hunanddatganiad (a all gynnwys euogfarnau wedi'u disbyddu perthnasol) wedi'i ychwanegu yng Nghymal 1.1.
g) Mae Cymalau 1.2 ac 1.6 wedi'u haralleirio i'w gwneud yn gliriach heb newid y neges.
h) Mae Cymalau 1.11 ac 1.12 wedi'u hychwanegu yn nodi y bydd eich cofrestriad ar y cymhwyster Nyrsio yn parhau'n amodol nes y bydd yr holl amodau mynediad Academaidd, Galwedigaethol a Phroffesiynol wedi'u bodloni. Os na fydd yr amodau hynny wedi'u bodloni erbyn dyddiad dechrau'r modiwl, bydd Y Brifysgol Agored yn terfynu eich cofrestriad ar y cymhwyster Nyrsio.
i) Mae Cymal 4.1d wedi'i ychwanegu yn nodi y gall Y Brifysgol Agored ganslo eich cofrestriad ar gyfer y cymhwyster Nyrsio os na fyddwch yn bodloni'r holl amodau mynediad Academaidd, Galwedigaethol a Phroffesiynol erbyn dyddiad dechrau'r modiwl, er mwyn adlewyrchu'r newidiadau a wnaed yng Nghymal 1.12.
j) Mae'r manylion cyswllt yng Nghymal 7.1 wedi'u diweddaru.
k) Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi'i ddiffinio yn y “Rhestr Termau”.
l) Nodwyd yn glir y rhoddir blaenoriaeth i'r telerau ac amodau yn y Cytundeb Atodol hwn dros yr Amodau Cofrestru lle maent yn wahanol.